Amdanom ni

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn un o saith partneriaeth strategol ledled Cymru sy’n goruchwylio’r broses o gyflawni’r agenda Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ac yn sicrhau bod gofynion statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu hateb.

Mae gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru gysylltiadau â chydweithrediadau eraill yng Ngorllewin Cymru, megis:

Cefnogir y bartneriaeth gan Uned Cydweithredu Rhanbarthol, a gynhelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Darperir cyllid ar gyfer y Bartneriaeth yn bennaf drwy Gronfa Partneriaeth Ranbarthol, y mae asiantaethau partner yn cyfrannu ati, a Chronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.

Llywodraethu’r Rhaglen

Mae’r Uned Cydweithredu Rhanbarthol yn rhoi cymorth strategol i’r Bartneriaeth ac yn cydgysylltu’r broses o ddatblygu a chyflawni’r rhaglen ranbarthol. Fe’i gynhelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac fe’i lleolir yn 3 Heol Spilman, Caerfyrddin.

Mae enwau a manylion cyswllt staff yr Uned Cydweithredu Rhanbarthol i’w gweld isod:

Kelvin Barlow, Rheolwr Busnes Adolygiadau Ymarfer Rhanbarthol
kelvinbarlow@sirgar.gov.uk

Kim Neyland, Rheolwr Busnes a Rhaglen Ranbarthol KNeyland@sirgar.gov.uk

Kevin Pett, Rheolwr Rhaglen a Newid
KPett@sirgar.gov.uk

Rebecca A. Jones, Rheolwr Rhaglen Gweithlu Rhanbarthol reajones@sirgar.gov.uk

Sarah J Bolton, Rheolwr Rhaglen A Newid
sjbolton@sirgar.gov.uk

Joff Lee, Service Transformation Lead – Ceredigion
jonathan.lee@ceredigion.gov.uk

Paul Davies, Pennaeth Trawsnewid Integredig Sir Benfro
paul.davies16@wales.nhs.uk

Ann Alderman, Rheolwr Prosiect y Gronfa Gofal Integredig
aalderman@sirgar.gov.uk

Rebekah E Young, Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol
Reyoung@sirgar.gov.uk

Leanne McFarland, Cysylltydd Gyrfaoedd Gofal Rhanbarthol
lamcfarland@sirgar.gov.uk

Simon J Williams, Rheolwr Rhaglen a Newid
sijwilliams@sirgar.gov.uk

Monica A Bason-Flaquer, Rheolwr Rhaglen a Newid (Dementia)
mabason-flaquer@sirgar.gov.uk

Michael McClymont, Swyddog Cymorth Busnes a Cyllid
MMcClymont@sirgar.gov.uk

Jessica A Rees, Swyddog Gweinyddol
JessicaARees@sirgar.gov.uk

Mae Bwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru wedi cael ei sefydlu dan Ran 9 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac mae’n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Partneriaeth Ranbarthol. Mae’r Canllawiau Statudol sy’n ategu Rhan 9 yn nodi ei gyfrifoldebau cyffredinol, sef:

Cyfrifoldebau cyffredinol
  • Sicrhau bod partneriaid yn gweithio’n effeithiol i wella deilliannau i bobl yn eu hardal.
  • Ymateb i’r asesiad o anghenion y boblogaeth sy’n ofynnol dan Adran 14 o’r Ddeddf
  • Gweithredu’r cynlluniau ar gyfer ardaloedd pob un o’r awdurdodau lleol
  • Sicrhau bod y cyrff sy’n aelodau o’r bartneriaeth yn darparu digon o adnoddau ar gyfer y bartneriaeth
  • Hybu’r broses o integreiddio gwasanaethau a sefydlu cronfeydd cyfun pan fo’n briodol.
Mae Partneriath Gofal Gorllewin Cymru yn gweithio’n agos gyda nifer fawr o gyrff er mwyn cyflawni ei hamcanion. Isod mae rhestr o bartneriaethau allweddol.







Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/hafan