Llythyr Newyddion Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Mawrth 5, 2018
Adroddiad Blynyddol 2017/18
Mehefin 28, 2018

Cynllun Ardal Gorllewin Cymru

Cynllun Ardal Gorllewin Cymru

Cynllun Ardal Gorllewin Cymru 2018-2023

CYFLAWNI NEWID GYDA’N GILYDD

Mae Adran 14A o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol greu Cynlluniau Ardal yn nodi ystod a lefel y gwasanaethau a ddarperir yn eu hardal mewn ymateb i Asesiadau Poblogaeth rhanbarthol. Mae’n rhaid creu’r Cynlluniau hyn bob 5 mlynedd ac mae’n rhaid cyhoeddi’r cynlluniau cychwynnol erbyn 1 Ebrill 2018.

Cytunwyd ar Gynllun Ardal Gorllewin Cymru ar gyfer 2018-23, sef ‘Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd’, gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, ac mae wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n cynnwys cyfres o ymrwymiadau strategol y bydd y Bartneriaeth yn eu gweithredu dros y pum mlynedd nesaf i gynorthwyo’r gwaith o ran trawsnewid ac integreiddio gofal a chymorth yn y Rhanbarth.

Mae’r Cynllun ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol yma. Mae hefyd ar gael ar Borth Data Gorllewin Cymru, sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Uned Ddata Cymru. Mae hyn yn darparu mynediad i ystod eang o ddata ynghylch poblogaeth a gwasanaeth ar gyfer y rhanbarth ac mae’n galluogi ein Cynllun i gael ei ddiweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu datblygiadau lleol a chenedlaethol, ynghyd ag adrodd ar gynnydd yn ôl yr ymrwymiadau yn ein Cynllun.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Martyn Palfreman, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol drwy anfon neges e-bost at MJPalfreman@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228978.