Arolwg Ymgynghori ynghylch y Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Ranbarthol

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi datblygu strategaeth eiriolaeth oedolion ranbarthol newydd ar gyfer Gorllewin Cymru. Rydym wedi gwneud hyn oherwydd rydym am sicrhau mynediad teg at wasanaethau eiriolaeth o ansawdd uchel yn ein hardal. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon yn effeithiol, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau'r rhai sydd agosaf at wasanaethau eiriolaeth. Prif nod yr ymgynghoriad hwn yw nodi meddyliau a barn rhanddeiliaid am y strategaeth ddrafft bresennol. Mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn dylanwadu'n uniongyrchol ar Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Gorllewin Cymru.


I weld copi o'r strategaeth ar ffurf PDF, cliciwch ar y botwm isod.