Amdanom ni
Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cael ei sefydlu i oruchwylio’r broses barhaus o drawsnewid ac integreiddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn ardal Gorllewin Cymru. Mae’r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd y tri awdurdod lleol yng Ngorllewin Cymru (Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro), Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chynrychiolwyr o’r trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi cael ei sefydlu i ateb gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae defnyddwyr gwasanaethau gofal a chymorth yn eistedd ar y Bwrdd hefyd, ynghyd â chynrychiolydd gofalwyr.
Porth Data Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Mae’r Porth, a ddatblygwyd ar y cyd ag Uned Ddata Cymru, yn cynnwys fersiwn ar-lein o’n Cynllun Ardal, ‘Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd’ a ffeithiau allweddol o’n Hasesiad Poblogaeth cyntaf, a gynhaliwyd yn 2016-17. Mae’r Porth hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddata demograffig a data am wasanaethau a pherfformiad, gan roi dull defnyddiol i bartneriaid gynllunio gwasanaethau a monitro effaith y newidiadau yr ydym yn eu gwneud.
‘Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol’
Ym mis Mehefin 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ‘Cymru Iachach’, sy’n nodi rhaglen genedlaethol ar gyfer y gwaith parhaus o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Cynllun yn rhoi sylw i ganfyddiadau allweddol yr Adolygiad Seneddol diweddar o Iechyd a Gofal yng Nghymru. Bydd £100 miliwn ar gael ledled Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf drwy Gronfa Drawsnewid i gefnogi newidiadau, a hynny’n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
Storïau newyddion

- Feed has no items.