Amdanom ni
Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn un o saith partneriaeth strategol ledled Cymru sy’n goruchwylio’r broses o gyflawni’r agenda Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ac yn sicrhau bod gofynion statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu hateb.
Mae gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru gysylltiadau â chydweithrediadau eraill yng Ngorllewin Cymru, megis:
- Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Byrddau Diogelu Rhanbarthol ar gyfer oedolion a phlant
- Bwrdd Cynllunio Ardal – Camddefnyddio Sylweddau
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
- Pwyllgor Rhanbarthol Cefnogi Pobl
Cefnogir y bartneriaeth gan Uned Cydweithredu Rhanbarthol, a gynhelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Darperir cyllid ar gyfer y Bartneriaeth yn bennaf drwy Gronfa Partneriaeth Ranbarthol, y mae asiantaethau partner yn cyfrannu ati, a Chronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.
Llywodraethu’r Rhaglen
Mae enwau a manylion cyswllt staff yr Uned Cydweithredu Rhanbarthol i’w gweld isod:
Kelvin Barlow, Rheolwr Busnes Adolygiadau Ymarfer Rhanbarthol
kelvinbarlow@sirgar.gov.uk
Kim Neyland, Rheolwr Busnes a Rhaglen Ranbarthol KNeyland@sirgar.gov.uk
Kevin Pett, Rheolwr Rhaglen a Newid
KPett@sirgar.gov.uk
Rebecca A. Jones, Rheolwr Rhaglen Gweithlu Rhanbarthol reajones@sirgar.gov.uk
Sarah J Bolton, Rheolwr Rhaglen A Newid
sjbolton@sirgar.gov.uk
Joff Lee, Service Transformation Lead – Ceredigion
jonathan.lee@ceredigion.gov.uk
Paul Davies, Pennaeth Trawsnewid Integredig Sir Benfro
paul.davies16@wales.nhs.uk
Ann Alderman, Rheolwr Prosiect y Gronfa Gofal Integredig
aalderman@sirgar.gov.uk
Rebekah E Young, Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol
Reyoung@sirgar.gov.uk
Leanne McFarland, Cysylltydd Gyrfaoedd Gofal Rhanbarthol
lamcfarland@sirgar.gov.uk
Simon J Williams, Rheolwr Rhaglen a Newid
sijwilliams@sirgar.gov.uk
Monica A Bason-Flaquer, Rheolwr Rhaglen a Newid (Dementia)
mabason-flaquer@sirgar.gov.uk
Michael McClymont, Swyddog Cymorth Busnes a Cyllid
MMcClymont@sirgar.gov.uk
Jessica A Rees, Swyddog Gweinyddol
JessicaARees@sirgar.gov.uk
Cyfrifoldebau cyffredinol
- Sicrhau bod partneriaid yn gweithio’n effeithiol i wella deilliannau i bobl yn eu hardal.
- Ymateb i’r asesiad o anghenion y boblogaeth sy’n ofynnol dan Adran 14 o’r Ddeddf
- Gweithredu’r cynlluniau ar gyfer ardaloedd pob un o’r awdurdodau lleol
- Sicrhau bod y cyrff sy’n aelodau o’r bartneriaeth yn darparu digon o adnoddau ar gyfer y bartneriaeth
- Hybu’r broses o integreiddio gwasanaethau a sefydlu cronfeydd cyfun pan fo’n briodol.