Mae Adroddiad Arolwg Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Awst 14, 2020Ein Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru 2020-2025
26 Tachwedd 2020
Mae’n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ac rydym wrth ein bodd o gael lansio Strategaeth Gofalwyr Ranbarthol – Gwella Bywydau Gofalwyr.
Mae pawb ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cydnabod y rhan hanfodol y mae Gofalwyr di-dâl o bob oed yn chwarae wrth gefnogi ein trigolion lleol.
Rydym yn ddiolchgar i’r holl ofalwyr a rannodd eu barn trwy fynychu gweithdai neu gyflwyno arolygon sydd wedi ein galluogi i ddatblygu’r strategaeth hon. Rydym wedi nodi pedwar maes blaenoriaeth allweddol ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod llais Gofalwyr i’w glywed wrth inni ddatblygu cynlluniau blynyddol a fydd yn ein galluogi i gyflawni’r Strategaeth.
Mae’n gosod y weledigaeth i sicrhau bod Gofalwyr yn cael eu hadnabod, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi ym mhob peth maen nhw’n gwneud.