Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Cynhadledd Ranbarthol: Cyflawni Newid gyda’n gilydd

24 Mai 2018

Parc Y Scarlets, Llanelli

Ddwy flynedd ar ôl cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae newid sylweddol yn digwydd o ran y ffordd y darperir gofal a chymorth yng ngorllewin Cymru. Mae gan y partneriaid weledigaeth glir a rennir ynghylch newid, awydd i drawsnewid, ac maent yn canolbwyntio’n ddi-baid ar wneud gwahaniaeth i bobl a chymunedau.

Daeth ein cynhadledd ‘Cyflawni Newid gyda’n gilydd’ â chydweithwyr o wahanol sefydliadau a sectorau at ei gilydd ac roedd yn gyfle unigryw i rannu llwyddiannau presennol a meddwl am sut byddwn yn symud ymlaen o ran trawsnewid yn y dyfodol. Roedd y rhaglen yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, cyflwyniadau ysgogol ar fentrau presennol a gweithdai ymarferol i helpu o ran ein taith barhaus tuag at newid.

Roedd yr unigolion oedd yn brejennol yn amrywio o Uwch-reolwyr, Rheolwyr gwasanaethau ac arweinwyr timau, Comisiynwyr, Gweithwyr cymdeithasol / rheolwyr gofal / staff mewn timau amlddisgyblaethol, Darparwyr gofal cymdeithasol, Arweinwyr gweithluoedd, ynghyd â Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr.

Sleid PowerPoint

Prif Cyflwyniad

  Preventative Community Services:Role of theThird Sector

  Seamless, locality-based Care: The experience in West Wales

  Gweithredu Signs of Safety yng ngorllewin Cymru

Gweithdai

  Cynllun Ardal Gorllewin Cymru

  Creu gweithlu iechyd a gofal at y dyfodol

  Cynhydrchu ar y cyd neu gynhyrchu ffug?