RECRIWTIO AELODAU YCHWANEGOL I FWRDD PARTNERIAETH RANBARTHOL GORLLEWIN CYMRU

EICH CYFLE I HELPU I LUNIO GOFAL A CHYMORTH YN EIN RHANBARTH

Mae ystod o gyfrifoldebau ar Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru o dan Ran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae’n chwarae rôl allweddol wrth annog gwaith trawsnewid ac integreiddio gofal a chymorth yn y Rhanbarth. Mae’r Bwrdd yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o asiantaethau partner yn y sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol ynghyd â defnyddwyr gwasanaeth a chynrychiolydd gofalwyr.

Er mwyn sicrhau bod y Bwrdd a’i waith yn parhau i adlewyrchu anghenion, dyheadau a barn poblogaeth gorllewin Cymru, rydym am benodi cynrychiolwyr defnyddwyr a chynrychiolwyr gofalwyr, yn ogystal ag ail gynrychiolydd o’r trydydd sector a allai ychwanegu safbwynt cenedlaethol at drafodaethau’r Bwrdd.

Gellir gweld gwybodaeth bellach am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a ffurflenni cais drwy ddilyn y dolenni isod. Dylid anfon mynegiannau o ddiddordeb atom drwy gyfrwng neges e-bost erbyn 16 Ebrill 2018.

Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech ofyn cwestiynau pellach, mae pob croeso i chi gysylltu â Martyn Palfreman, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol, drwy ffonio 01267 228978/07880 504028 neu e-bostio MJPalfreman@sirgar.gov.uk

 

Name Downloads Version Owner Last Modified Rating
Name Downloads Version Owner Last Modified Rating
1 downloads 29-03-2024 6:47
2 downloads 29-03-2024 6:47
6 downloads 29-03-2024 6:47
71 downloads 29-03-2024 6:47
251 downloads 29-03-2024 6:47