Adroddiad Blynyddol 2016/17
Mawrth 5, 2018
Llythyr Newyddion Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Mawrth 5, 2018

Asesu’r angen am ofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru

Asesu’r angen am ofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru

Mae Adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol gynnal Asesiadau o’r Boblogaeth sy’n dynodi’r angen am ofal a chymorth, ac am anghenion cymorth y gofalwyr, yn eu hardal. Hefyd, mae’n ofynnol iddynt ddynodi’r ystod o wasanaethau sydd eu hangen, i ba raddau mae’r anghenion hyn yn cael eu diwallu ac ym mha fodd bydd gwasanaethau’n cael eu darparu’n Gymraeg. Rhaid cynnal Asesiadau o’r Boblogaeth bob pum mlynedd.

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei Asesiad cyntaf o boblogaeth y rhanbarth. Mae’r Bartneriaeth yn tynnu partneriaid ynghyd o gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sefydliadau o’r trydydd sector a’r sector annibynnol, ynghyd â defnyddwyr a gofalwyr. Mae’r Asesiad ar gael isod.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ar gael yma: https://wwcp.org.uk.temp.link/?lang=cy. I gael rhagor o wybodaeth am yr Asesiad o’r Boblogaeth a sut bydd y Bartneriaeth yn defnyddio’i chanfyddiadau i wella gofal a chymorth yn y dyfodol, cysylltwch â Martyn Palfreman, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol: MJPalfreman@sirgar.gov.uk

Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru Mawrth 2017