Cyfrannua at drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol
Medi 2, 2019Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu
Hydref 29, 2019Cynhadledd Flynyddol 2019
GORLLEWIN CYMRU IACHACH: SICRHAU NEWID
PARC Y SCARLETS, LLANELLI
10 HYDREF 2019
Dyma ein cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid iechyd, gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru.
Mae adnoddau sylweddol gan Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru, ymrwymiad clir gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol i sicrhau newid radical, strategaeth newydd tymor canolig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn seiliedig ar fodel cymdeithasol o iechyd, a hanes cryf o arloesi yn y rhanbarth oll yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ddod â gwasanaethau ynghyd i fodloni anghenion unigolion a chymunedau, gan helpu pobl i barhau i fod yn iach a byw bywydau bodlon, hapus a llawn.
Bydd cynhadledd flynyddol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn rhoi cyfle ichi ddarganfod mwy am ein siwrnai drawsnewid ac ystod o raglenni cyffrous sydd eisoes ar y gweill. Yn dilyn anerchiad agoriadol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd sesiynau rhyngweithiol gan arbenigwyr amrywiol yn rhoi cyfle ichi rannu eich syniadau a’ch safbwyntiau, ystyried sut y gallwch chi i lunio newid wrth iddo ddigwydd a rhwydweithio â chydweithwyr ar draws sectorau ac o wahanol rannau o’r rhanbarth.
Bydd y gynhadledd o fudd i uwch-reolwyr a rheolwyr canol, ymarferwyr, comisiynwyr a darparwyr. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly i osgoi cael eich siomi, archebwch le nawr.
https://www.eventbrite.co.uk/e/gorllewin-cymru-iachach-a-healthier-west-wales-tickets-69421925849