Lansio Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru
Awst 14, 2019Cynhadledd Flynyddol 2019
Medi 19, 2019Cyfrannua at drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol
Yr hydref hwn, mae cyfres o ddigwyddiadau hanner diwrnod yn cael eu cynnal ledled Cymru ar gyfer pob aelod o staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r digwyddiadau, a drefnir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, yn rhoi gwell dealltwriaeth o Gymru Iachach i gynrychiolwyr o’r GIG, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.
Cymru Iachach yw’r cynllun cenedlaethol sy’n dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae gan y cynllun Cymru Iachach bedwar prif nod:
- Bydd pobl yn hapusach ac yn iachach
- Bydd gwasanaethau iechyd a gofal yn well ac yn haws cyrraedd atynt
- Bydd gwasanaethau iechyd a gofal yn arloesol ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf
- Bydd staff iechyd a gofal yn teimlo eu bod nhw hefyd yn cael gofal a’u hysgogi
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Jane Tremlett:ae Cymru yn arwain y ffordd wrth ddod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, felly mae’n hanfodol bod staff ym mhob rhan o’r system yn cael eu hysbysu ac yn cael cyfle i fod yn rhan o’r trawsnewidiad.
“Rydym yn gwahodd pob aelod o staff i ddod i’r digwyddiadau hyn i ddysgu rhagor am y ffordd y mae Gorllewin Cymru yn gweithio’n wahanol, yn fwy cydweithredol, ac yn sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth galon y ffordd y caiff ein system leol ei llunio.
“I wneud hyn ar raddfa fawr ar draws Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion rhaid i ni gael modelau gofal newydd. Dyna lle byddwch chi yn helpu. Mae arnom angen clywed eich syniadau ynghylch yr hyn sy’n gweithio yn eich ardal leol a’r hyn y gellir ei ddatblygu. Pa wersi allwn ni eu dysgu o bartneriaethau traws-sector rydych chi wedi’u gwneud yn eich gwaith o ddydd i ddydd?
“Ymunwch â ni yn y digwyddiadau hyn i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu ac i fod yn rhan o greu Cymru Iachach.”
Dyma’r digwyddiadau ar gyfer Gorllewin Cymru:
- Dydd Llun 9 Medi, 1-4pm – Caerfyrddin
https://tocyn.cymru/cy/event/046dfa89-8a57-41c3-8100-0c3072226e72
- Dydd Mawrth 8 Hydref, 1-4pm – Hwlffordd
https://tocyn.cymru/cy/event/6c3088ff-3499-4d02-8401-1c87edc87a01
- Dydd Llun 25 Tachwedd, 1-4pm – Aberystwyth
https://tocyn.cymru/cy/event/6889eb7a-589f-4d66-803d-61d4bed6a988
Mae pob digwyddiad am ddim ond rhaid sicrhau eich lle ymlaen llaw. Bydd y digwyddiadau’n para 2.5 awr.