Cafodd Siarter Anableddau Dysgu newydd Gorllewin Cymru sydd wedi’i llunio gan bobl sy’n byw ag anableddau dysgu o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ei lansio gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn Sioe Sir Benfro eleni.
Mae’r siarter yn cynnwys rhestr o bethau y mae pobl yn eu disgwyl ac sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau boddhaus. Mae’n amlinellu’r cymorth y mae pobl am ei gael a sut yr hoffent gael eu trin. Mae wedi ei datblygu â chefnogaeth gan Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a Choleg Sir Benfro. Fe’i cefnogir hefyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dros y misoedd nesaf, caiff y prosiect ei gyflwyno ledled y rhanbarth. Esboniodd Carys James, Cyd-gadeirydd Grŵp y Rhaglen Anableddau Dysgu a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion:
“Nid prosiect yw hwn a arweinir gan weithwyr proffesiynol neu wasanaethau cymdeithasol, neu hyd yn oed elusennau. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl i’r Dream Team, sef grŵp o bobl ag anableddau dysgu sy’n ein cynghori ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ac yn ein dal yn gyfrifol. Byddant yn ymweld â busnesau a sefydliadau i ofyn iddynt ymrwymo – ac yn edrych i weld eu bod yn gwireddu eu hymrwymiadau.
“Rydym yn gwneud pethau’n wahanol yng Ngorllewin Cymru. Rydym yn falch iawn o’r Dream Team ac wedi ymrwymo i fesur popeth yr ydym yn ei wneud yn unol â gofynion y siarter.
“Dim ond y dechrau yw llofnodi’r siarter. Nid yw’n ddigon i lofnodi – rhaid i sefydliadau ac unigolion weithredu’r hyn maent wedi’i addo, a bydd y Dream Team yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny.”
Esboniodd James Dash, Cyd-gadeirydd Grŵp y Rhaglen Anableddau Dysgu:
“Mae Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru yn dwyn ynghyd ein hawliau, ein hanghenion a’n dymuniadau mewn dogfen syml sydd wedi’i hanelu at bawb yn ein cymuned.
“Rhoir sylw i feysydd hanfodol megis cefnogaeth, iechyd a pherthnasoedd, gan ddod â nhw i gyd at ei gilydd mewn dogfen y gall pawb ymrwymo iddi, ac fe ddylai pawb wneud hynny.
“Doeddwn i ddim yn siŵr ynghylch defnyddio’r geiriau “rydym yn mynnu” – ond rydyn yn gwneud hynny! Mae ond yn deg ein bod yn mynnu cael ein trin fel pawb arall, cael bywyd cymdeithasol, gwneud pethau sy’n ein bodloni a chael ein trin ag urddas a pharch.”
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’n bleser gennyf nid yn unig lansio Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru ond hefyd ei llofnodi. Byddaf yn ei chefnogi yn fy rôl fel Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y siarter a’r rhai a fydd yn parhau i chwarae rôl hanfodol o ran goruchwylio’r gwaith yn y dyfodol.
“Mae’r siarter yn ategu Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau Llywodraeth Cymru sy’n ceisio gwella bywydau pawb sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru.”
I gael mwy o fanylion ynghylch y siarter, gwyliwch y fideo ar https://vimeo.com/337960189
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. If you continue without changing your settings, we'll assume that you are happy to receive all cookies from this website. If you would like to change your preferences you may do so by following the instructions here. ACCEPT